PCSO - Bangor

C Division
Bangor
Full Time
Permanent
£19,526
None

BTP’s mission is to work in partnership with others to help build a safe railway environment that is free from disruption and the fear of crime. PCSO’s are vital in achieving our mission by acting as connector within our community and maintaining public confidence.


No two days will be the same as you help protect and reassure the passengers, railway staff and retailers within the BTP Community. As a national police force, we expect our people to be the best, without exception.


You’ll be willing to work hard to learn the skills you need to serve your community and reassure the public. You will have all the responsibilities of a PCSO but focused within a railway environment which will also allow you to enforce BTP Byelaws. Typical duties will include visible patrols at stations, assisting passengers and supporting staff.


We are looking for resilient individuals with a flair for customer service. An ability to engage with the community and forge strong links with our partner organisations is essential. Articulate, adaptable, and able to think on your feet, you’ll be known for your ability to resolve a diverse range of scenarios. Above all, you’ll see this not as a job, but as a vocation - and you’ll be passionate about having the chance to make a difference.


Candidates can expect this to be a difficult and demanding job, both physically and mentally, and the hours can be highly unsocial. However, there are few careers that are as interesting, exciting and fulfilling as working as an officer for BTP.


Sound interesting? Join us on the journey and bring your creativity and commitment on board and help us make a difference.


The closing date for applications is 12.00pm hours on 6th August 2015


The British Transport Police are committed to equal opportunities and welcomes applications from all sections of the community.


You will not be eligible to apply if you have been unsuccessful in a PCSO paper sift in the last 6 months. You will not be eligible to apply to become a Police Constable, PCSO or Special Constable with BTP if you have ever had any convictions, cautions, reprimands and penalty notices (other then driving penalty notices). This also applies to juvenile convictions.


You will not be eligible to apply if you have an existing CCJ or IVA outstanding against you. Applicants who have been registered bankrupt will only be considered after three years from discharge of the debt.


** Please note we do not operate a transferee process for PCSO recruitment. Police Community Support Officer’s who wish to join BTP, will need to go through the entire process and training for the role **




Lleoliad: Adran C

Ardal: Bangor


Rhan/Llawn Amser: Llawn Amser


Math Contract: Parhaol


Cyflog: £19,526


Lwfans Llundain: Dim

Lwfans Shifft: 15% Cyflog Sylfaenol 


Cenhadaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) yw gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i helpu adeiladu amgylchedd rheilffordd diogel sy'n rhydd o ymyriad ac ofn troseddu. Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn hollbwysig wrth gyflawni ein cenhadaeth drwy weithredu fel cyswllt o fewn ein cymuned a chynnal hyder y cyhoedd.

Ni fydd yr un dau ddiwrnod yr un fath wrth i chi helpu diogelu a rhoi tawelwch meddwl i deithwyr, staff rheilffordd a manwerthwyr yng Nghymuned y BTP. Fel heddlu cenedlaethol, disgwyliwn i'n pobl fod y gorau, yn ddieithriad.

Byddwch yn barod i weithio'n galed i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i wasanaethu'ch cymuned a thawelu meddwl y cyhoedd. Bydd gennych holl gyfrifoldebau PCSO ond mewn amgylchedd rheilffordd fydd hefyd yn eich galluogi i weithredu Is-ddeddfau BTP. Mae dyletswyddau nodweddiadol yn cynnwys patrolau amlwg mewn gorsafoedd, cynorthwyo teithwyr a chefnogi staff.

Rydym yn edrych am unigolion cydnerth gyda dawn am wasanaeth cwsmeriaid. Mae gallu i ymgysylltu gyda’r gymuned a llunio cysylltiadau cryf gyda'n sefydliadau partner yn hanfodol. Byddwch yn rhugl, yn hyblyg ac yn chwim eich meddwl, cewch eich adnabod am eich gallu i ddatrys amrywiaeth o sefyllfaoedd. Yn bennaf, byddwch yn gweld hyn nid fel swydd, ond fel galwedigaeth - a byddwch yn angerddol am gael cyfle i wneud gwahaniaeth.

Gall ymgeiswyr ddisgwyl i hon fod yn swydd anodd a throm, yn gorfforol ac yn feddyliol, a gall yr oriau fod yn anghymdeithasol iawn. Fodd bynnag, prin iawn yw'r gyrfaoedd sydd mor ddiddorol a chyffrous ac a fydd yn eich bodloni gymaint â gweithio fel swyddog i BTP.

Swnio'n ddiddorol? Ymunwch â ni am daith a dewch â'ch creadigrwydd ac ymrwymiad atom a'n helpu i wneud gwahaniaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm o'r gloch 6 Awst 2015.

Mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain ymrwymiad i gyfle cyfartal ac mae'n croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Ni fyddwch yn gymwys i ymgeisio os buoch yn aflwyddiannus mewn sifft papur PCSO yn y 6 mis diwethaf. Ni fyddwch yn gymwys i ymgeisio i ddod yn Gwnstabl Heddlu, PCSO neu Gwnstabl Arbennig gyda BTP os cawsoch erioed unrhyw gollfarn, rhybudd, cerydd neu hysbysiad cosb (heblaw hysbysiadau cosb gyrru). Mae hyn hefyd yn weithredol i gollfarn ieuenctid.

Ni fyddwch yn gymwys os oes gennych CCJ neu IVA presennol yn eich erbyn. Dim ond ar ôl tair blynedd o ryddhad o'r ddyled y caiff ymgeiswyr a gofrestrwyd yn fethdalwyr eu hystyried.

** Dylid nodi nad ydym yn gweithredu proses trosglwyddai ar gyfer recriwtio PCSO. Bydd angen i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy'n dymuno ymuno â'r BTP fynd drwy'r holl broses a hyfforddiant ar gyfer y rôl **

This opportunity is closed to applications.